{ko i forfydd am blethv y llwyn bedw}
1 Yr het vedw da ith gedwir
2 ysgwae eiddig o's gwir
3 yspail gwydd cynydd canoed
4 ysgythrlen vrig cangen coed
5 ystewr wyf ystiryvedd
6 ystyriawl ith vawl ath vedd
7 ystoviad coed ystivai
8 ysgin ddail manwiail Mai
9 ysta adeil ith eiliwyd
10 ystor gwrteisrym ym wyd
11 Duw ath vawl hawdd ganmawl hir
12 adeildo o vedw doldir
13 gerland a roys dyn geirloyw
14 gwmpas or vedwen las loyw
15 call a divradw ith gadwaf
16 coron rhac tra hinon haf
17 culwas ai dwg cyd ciliai
18 cwfl ddiell o vantell vai
19 cydvaeth dyffryn glyn gloywlas
20 coedvedw gwiw yn cydvod gwas
21 grwgiant serch eurverch ervai
22 gwrthiau a frwyth mwynlwyth Mai
23 [303] pwyll rhac angof a gofal
24 pebyll vwch didywyll dal
25 mawl dyfiant gwiw voliant gwydd
26 mynwavr o dewvrig manwydd
27 gwowdau dal gwiwdo deulwyn
28 gwyrddgylch a ddiylch i ddwyn
29 gwawr gelvydd serch gwir goelvain
30 gwregys gwallt or goedallt gain
31 gwiw adeil eb adveiliaw
32 gwaith wyd Vorvydd Llwyd ai llaw
Dauid ap Gwilim